Croeso i'r gyfres hon o gymorth ar-lein, sy'n cynnwys Blas ar Adferiad, Sylfeini MindBody, a ReConnected, a ddatblygwyd gan ReConnected Life ac a gyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.
Diolch i ti am gymryd y cam hwn gyda ni. Rydyn ni gyda ti. Ac rydym yn dy gredu.
Efallai y bydd rhywfaint o'r cynnwys yn taro tant gyda ti ac efallai na fydd rhannau eraill - cymer o hyn beth sy'n dy helpu di. Er bod hwn wedi'i ysgrifennu gan fenyw sy'n rhannu ei phrofiadau, mae mwyafrif y fideos a'r gwersi yn berthnasol i bob rhywedd.
Ynglŷn â Blas ar Adferiad
Blas ar Adferiad yw lle y dylet ti ddechrau os mai dyma ddechrau dy daith iachâd gyda ni.
Fe'i cynlluniwyd yn wreiddiol fel cwrs tair wythnos gyda gwers fach ddyddiol, heb fod yn hwy nag 20 munud. Bydd yn dy arwain trwy rai cwestiynau ac ystyriaethau. Gelli wylio'r fideo, gwrando ar y sain, neu ddarllen y trawsgrifiad, ac mae gweithlyfrau i fynd drwyddynt.
Nid oes angen i ti ddilyn y rhain bob dydd; mae'r holl adnoddau ar gael i ti ar unwaith, ac nid oes unrhyw frys gan fod gen fynediad i'r cynnwys hwn cyhyd ag y byddwn yn ei gynnig.
Mae'r pecyn wedi'i rannu'n dri modiwl:
- Modiwl 1 – Ymateb
- Modiwl 2 – Achub
- Modiwl 3 – Gwytnwch
Rydym yn dy annog i weithio drwy'r pecyn ar gyflymder cyson. Mae pum fideo fesul modiwl, felly gelli wylio un fideo y dydd, a chael y penwythnos yn rhydd. Gweithia ar gyflymder sy'n iawn i ti. Ac mae croeso i ti blymio i mewn ac allan a chymryd egwyl. Ti sy'n rheoli sut rwyt ti'n cael mynediad i'r dysgu.
Am Sylfeini MindBody
Mae Sylfeini MindBody yn ategu Blas ar Adferiad, trwy gymryd pump arfer a’u harchwilio’n fanylach.
Mae pob practis wedi'i gynllunio i fod tua deg munud yn unig, gyda thaflen waith ar gyfer pob un. Fel gyda Blas ar Adferiad, gelli wylio'r fideo, gwrando ar y sain, neu ddarllen y trawsgrifiad.
Y pum arfer yw: Sadio, Anadlu, Cwsg, Meddylgarwch, a Cherddoriaeth.
Ni fydd dy fynediad yn dod i ben, mae Blas ar Adferiad a MindBody Foundations yn offer sydd yma i ti pan fydd arnat eu hangen a chyhyd ag y gallwn eu darparu
Am y Myfyrdod Lle Diogel
Mae Myfyrdod Lle Diogel yn glip sain 15 munud a fydd yn mynd â ti i dy le diogel ac yn rhoi eiliad o dawelwch i ti. Gelli lawrlwytho i dy ffôn i fynd ag ef gyda ti bob amser.
Croeso i ReConnected, Y Gyfrinach i Ffynnu ar ôl Goroesi
Cafodd ReConnected ei greu fel dilyniant i Blas ar Adferiad, pan fyddi'n barod i symud y tu hwnt i oroesi.
Mae'r gwersi'n amrywio o tua 15-20 munud i tua 30-35 munud. Fel gyda'r rhaglenni eraill, gelli wylio'r fideo, gwrando ar y sain, neu ddarllen y trawsgrifiad.
Mae pum modiwl:
- Modiwl 1 – Sylfeini
- Modiwl 2 – Dad-ddysgu
- Modiwl 3 – Cysylltiad
- Modiwl 4 – Hunan-gariad
- Modiwl 5 – Cynllunio
Mae’r holl adnoddau ar gael i ti ar unwaith, ac nid oes unrhyw frys gan fod gen ti fynediad i’r cynnwys hwn cyhyd ag y gallwn ei gynnig.
Dywed Emily Jacob, Sylfaenydd ReConnected Life:

Rwyt ti'n dweud wrth y byd dy fod yn iawn. Rwyt ti'n dweud wrthyt dy hun dy fod yn ymdopi. Ond y tu mewn rwyt ti'n teimlo'n fregus ac wedi torri. Rwyt ti'n fferru dy hun i'r boen. Beth arall y dylet ei ddisgwyl? Dyma sut mae bywyd nawr, ynte? Nid o reidrwydd.
Bydd Blas ar Adferiad yn dy helpu i symud y tu hwnt i ddim ond ymdopi, un diwrnod ar y tro. Bydd yn dy helpu i reoli dy realiti, ac achub dy hun.
Roeddwn i lle rwyt ti. Dyma beth oedd ei angen arnaf.
Barod i Ddechrau?
Cysylltu â ni
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau am Blas ar Adferiad, Sylfeini MindBody, neu ReConnected, cer i'r Cwestiynau Cyffredin.
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau am Brifysgol Abertawe gelli gysylltu â ni.