Beth yw cwci?
•Darn o wybodaeth yw "cwci" sy'n cael ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur os ydych yn cytuno i hyn ac sy'n cofnodi sut rydych yn symud o gwmpas gwefan fel y gall, pan fyddwch yn ailymweld â'r wefan honno, gyflwyno opsiynau wedi'u teilwra yn seiliedig ar yr wybodaeth a storiwyd am eich ymweliad diwethaf. Gellir defnyddio cwcis hefyd i ddadansoddi traffig ac at ddibenion hysbysebu a marchnata.
•Mae bron pob gwefan yn defnyddio cwcis ac nid ydynt yn niweidio'ch system.
Mae'n ofynnol i ni gael eich caniatâd ar gyfer pob cwci nad yw'n hanfodol a ddefnyddir ar ein gwefan. Gallwch rwystro cwcis (gan gynnwys cwcis hanfodol) ar unrhyw adeg trwy actifadu'r gosodiad ar eich porwr sy'n caniatáu i chi wrthod gosod pob cwci neu rai cwcis. Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio gosodiadau eich porwr i rwystro cwcis hanfodol efallai na fyddwch yn gallu cyrchu ein gwefan i gyd neu rannau ohoni.
Sut rydyn ni'n defnyddio cwcis?
•Rydym yn defnyddio cwcis i olrhain eich defnydd o'n gwefan. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall sut rydych chi'n defnyddio'r wefan ac olrhain unrhyw batrymau o ran sut rydych chi'n defnyddio ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i ddatblygu a gwella ein gwefan yn ogystal â chynnyrch a/neu wasanaethau mewn ymateb i’r hyn y gallai fod ei angen neu ei eisiau arnoch.
•Mae cwcis naill ai yn:
- Cwcis sesiwn: caiff y rhain eu storio ar eich cyfrifiadur yn hystod eich sesiwn gwe yn unig, a chânt eu dileu’n awtomatig pan fyddwch yn cau eich porwr – maent fel arfer yn storio cyfeirnod sesiwn dienw sy’n eich galluogi i bori gwefan heb orfod mewngofnodi i bob tudalen ond nid ydynt yn casglu unrhyw ddata personol oddi ar eich cyfrifiadur; neu
- Cwcis parhaus: mae cwci parhaus yn cael ei storio fel ffeil ar eich cyfrifiadur ac mae’n aros yno pan fyddwch yn cau eich porwr gwe. Gall y wefan a’i creodd ddarllen y cwci pan fyddwch yn ymweld â’r wefan honno eto. Rydym yn defnyddio cwcis parhaus ar gyfer Google Analytics.
•Gellir categoreiddio cwcis fel a ganlyn hefyd:
- Cwcis sy'n hollol angenrheidiol: Mae’r cwcis hyn yn hanfodol i’ch galluogi i ddefnyddio’r wefan yn effeithiol, megis wrth brynu cynnyrch a/neu wasanaeth. Heb y cwcis hyn, ni ellir darparu'r gwasanaethau sydd ar gael i chi ar ein gwefan. Nid yw’r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth amdanoch y gellid ei defnyddio ar gyfer marchnata neu gofio ble rydych wedi bod ar y rhyngrwyd.
- Cwcis perfformiad: Mae'r cwcis hyn yn ein galluogi i fonitro a gwella perfformiad ein gwefan. Er enghraifft, maent yn ein galluogi i gyfrif ymweliadau, nodi ffynonellau traffig a gweld pa rannau o'r safle sydd fwyaf poblogaidd.
- Cwcis ymarferoldeb: Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i'n gwefan gofio dewisiadau a wnewch a darparu nodweddion uwch. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gallu rhoi newyddion neu ddiweddariadau i chi sy'n berthnasol i'r gwasanaethau rydych chi'n eu defnyddio. Gallant hefyd gael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt megis gwylio fideo neu wneud sylwadau ar flog. Mae'r wybodaeth y mae'r cwcis hyn yn ei chasglu fel arfer yn ddienw. Rydym yn defnyddio'r rhain i weld a oes rhywun wedi mewngofnodi, neu wedi defnyddio'r bar offer hygyrchedd.
– - Cwcis targedu: Mae'r cwcis hyn yn cofnodi eich ymweliad â'n gwefan, y tudalennau rydych wedi ymweld â nhw a'r dolenni rydych wedi'u dilyn. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud ein gwefan a'r hysbysebion a ddangosir arni yn fwy perthnasol i'ch diddordebau. Nid ydym yn defnyddio unrhyw gwcis targedu ar y wefan hon.
- Cwcis parti cyntaf a thrydydd parti: Mae cwcis parti cyntaf yn gwcis a osodir gan ein gwefan. Mae cwcis trydydd parti yn gwcis ar ein gwefan sy'n cael eu gosod gan wefan heblaw ein gwefan, megis lle mae gennym hysbysebion ar ein gwefan neu'n defnyddio picseli Facebook fel y gallwn ddangos cynnwys perthnasol gennym ni pan fyddwch ar Facebook.
Rydym yn defnyddio cwcis trydydd parti ar ein gwefan ac mae’r rhain wedi’u nodi yn y tabl isod.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cwcis unigol a ddefnyddiwn ac at ba ddiben yn y tabl isod:
Teitl y Cwci Enw'r Cwci | Diben |
Google Analytics _ga _gali _gat _gid | Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i'n helpu i wella'r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan a’r blog, o ble mae ymwelwyr wedi dod i’r wefan a’r tudalennau y maent wedi ymweld â nhw. |
wordpress_logged_in | Mae'r cwci hwn yn cael ei osod gan y wefan pan fyddwch chi'n mewngofnodi, i ddangos y cynnwys priodol i chi. Os ydych yn defnyddio “cofiwch fi”, cedwir y cwci hwn am hyd at flwyddyn. |
a11y-high-contrast a11y-larger-fontsize | Mae'r cwci hwn yn cofio'ch dewis os ydych chi'n defnyddio'r opsiynau hygyrchedd, cyferbyniad uchel, neu faint ffont mwy. |
cookieconsent_status | Mae cookieconsent_yn cofio eich bod wedi derbyn bod angen i'r wefan ddefnyddio cwcis am 365 o ddiwrnodau. |
Gallwch newid eich dewisiadau cwcis ar unrhyw adeg trwy glicio ar y tab dewisiadau cwcis ar ochr dde waelod ein gwefan. Adnewyddwch eich tudalen i sicrhau bod y gosodiadau newydd wedi dod i rym.
Gallwch hefyd reoli eich gosodiadau cwcis trwy eich porwr gwe:
- Google Chrome – https://support.google.com/accounts/answer/61416
- Microsoft Edge – https://privacy.microsoft.com/en-us/windows-10-microsoft-edge-and-privacy
- Mozilla Firefox – https://support.mozilla.org/en-US/kb/enable-and-disable-cookies-website-preferences
- Microsoft Internet Explorer – https://support.microsoft.com/en-gb/help/17442/windows-internet-explorer-delete-manage-cookies
- Opera – https://www.opera.com/help/tutorials/security/privacy/
- Safari – https://support.apple.com/en-gb/safari
Gallwch ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan, trwy fynd i Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwcis rydym yn eu defnyddio, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn hello@reconnected.life.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwcis rydym yn eu defnyddio, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn hello@reconnected.life