Gwasanaethau Cymorth Adferiad Prifysgol Abertawe

Adnoddau Cefnogi Adferiad Prifysgol Abertawe

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw'r rhaglenni hyn? Pecyn o raglenni ar-lein yw'r rhain y mae Prifysgol Abertawe yn ei gynnig i oroeswyr trais rhywiol a'r rhai sy'n eu cefnogi fel rhieni neu ofalwyr. Meddylia amdanynt fel llyfrgell o offer hunangymorth, a fydd yn dy gynorthwyo i fyw bywyd hapusach, mwy hyderus, heb unrhyw gamdriniaeth.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y 3 rhaglen?

Mae Blas ar Adferiad ar gyfer pobl sydd newydd ddechrau eu taith iacháu. Mae'n edrych ar yr ymatebion cyffredin i drawma ac yn awgrymu technegau ar gyfer ymdopi.

Sylfeini MindBody yn ategu Blas ar Adferiad trwy drafod pum techneg yn fwy manwl.

Mae ReConnected, y Gyfrinach i Ffynnu ar ôl Goroesi, yn dilyn ymlaen o Blas ar Adferiad ac mae wedi'i gynllunio i'w ddilyn pan fyddi'n barod i symud y tu hwnt i oroesi.

Pwy yw Emily a ReConnected Life? Mae Emily Jacob yn oroeswr a sefydlodd ReConnected Life i gefnogi goroeswyr eraill i ailgysylltu â'u meddyliau, eu cyrff, eu gobeithion a'u breuddwydion. Dyluniodd Emily’r gyfres hon o raglenni ac mae’n cynnig cymorth ar-lein arall a hyfforddiant un-i-un.

Pwy gaiff ddefnyddio'r adnoddau hyn? Mae'r adnoddau wedi'u cynllunio ar gyfer goroeswyr trais a cham-drin rhywiol a gall pobl sydd wedi'u cyfeirio at unrhyw un o wasanaethau Prifysgol Abertawe eu defnyddio. Mae rhai o'r deunyddiau wedi'u hysgrifennu ar gyfer safbwynt menyw, ond gall goroeswyr o unrhyw ryw ac oedran, 16 ac yn hŷn, ddefnyddio'r adnoddau.

Cofia, o dan y telerau ac amodau a'r drwydded a roddir i Brifysgol Abertawe i ddefnyddio'r deunyddiau hyn, dim ond at dy ddibenion personol dy hun y gelli eu defnyddio. Os wyt am rannu'r deunyddiau ag eraill, gofyn iddynt gysylltu â ni i gael mynediad, neu os nad ydynt yn fyfyriwr neu'n aelod o staff Prifysgol Abertawe i gysylltu ag Emily Jacob yn ReConnected Life yn uniongyrchol yn emily@reconnected.life.

A gaf i fynd trwy'r wers i gyd ar yr un pryd?  Mae'r holl adnoddau ar gael i ti cyn gynted ag y byddi'n mewngofnodi am y tro cyntaf. Rydym yn dy annog i weithio drwy'r pecyn ar gyflymder cyson. Gweithia ar gyflymder sy'n iawn i ti. Mae croeso i ti bicio i mewn ac allan a chymryd egwyl. Gelli hefyd ailymweld â gwersi blaenorol.

Sut mae ysgrifennu yn y llyfrau gwaith? Darperir fersiynau dogfen PDF a Word ar dy gyfer. Gelli ddarllen y gweithlyfrau ar-lein, ond i ysgrifennu yn y blychau bydd angen i ti naill ai lawrlwytho ac argraffu’r PDF (i’w ysgrifennu â llaw), neu lawrlwytho ac agor y ddogfen Word (i deipio i mewn i’r blychau).

Pam y caiff ei alw'n Flas ar Adferiad?

Dywed Emily, “Rwy’n gwybod nad yw Adferiad bob amser yn rhywle y gallwn ei gyrraedd ac mae gennym ni i gyd ddiffiniadau gwahanol iawn o’r hyn y mae Adfer yn ei olygu i ni. Gwn hefyd, pan oeddwn yn y pydew du, bod gwir angen i mi gredu na fyddwn bob amser yno, y byddai realiti gwahanol iawn allan yna, yn rhywle, lle gallwn deimlo fy mod yn rheoli fy mhwyll eto, lle gallwn ymddiried yn fy hun, lle gallwn ymddiried yn y byd, ac ymddiried bywyd. A chyda hynny mewn golwg fe wnes i greu Blas ar Adferiad: i roi'r gobaith hwnnw i ni i gyd pan yn y pydew na fydd hi felly bob amser. Mae Blas ar Adferiad yn rhoi blas ar sut deimlad fyddai peidio â bod yn y pydew. A phan fydd yr offer a'r technegau'n cael eu cymhwyso'n gyson dros amser, mae'r affwys ei hun yn symud ymhellach i'r pellter. Fy mwriad yw bod y pecyn a'r technegau sydd wedi'u cynnwys yma yn dy helpu i flasu nid yn unig rhyw damaid o'r hyn y gall bywyd fod allan o'r pydew, ond eu bod yn agor ystod eang o brofiadau i ti. Gyda chariad.”

Sut galla i roi adborth i chi?  Byddem wrth ein bodd yn clywed dy farn am y pecyn hwn, boed yn ganmoliaeth, yn feirniadaeth neu'n awgrym. Y ffordd orau o roi adborth yw cwblhau ein Ffurflen Adborth Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr Cynhwysol.

Gwasanaethau Cymorth Adferiad Prifysgol Abertawe Neidio'n Gyflym i Google